Rhif y ddeiseb: P-06-1261

Teitl y ddeiseb: Dylid buddsoddi i sicrhau bod gan yr holl ysgolion seilwaith a chysylltedd rhyngrwyd effeithiol ac o safon.

Geiriad y ddeiseb: Mae cysylltiad band eang da wedi dod yn hanfodol ar gyfer addysg yn yr 21ain ganrif. Dylid ac mae’n rhaid gwneud mwy i sicrhau bod gan ein hysgolion y cysylltiad rhyngrwyd gorau posibl i ddarparu cydraddoldeb i bawb, lle bynnag yng Nghymru mae disgyblion yn byw.

Er i raglen flaenorol (2016-21) Llywodraeth Cymru geisio blaenoriaethu mynediad at fand eang cyflym iawn, mae rhai ysgolion yn parhau i aros am hyn.

Rwy’n galw i’r holl ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru gael cysylltiad gigabeit (rhwymedigaeth gwasanaeth 1000Mbps) gwirioneddol, gan sicrhau na fydd yr un disgybl dan anfantais oherwydd cyflymder band eang gwael yn yr ysgol.

 

 

 


1.        Cefndir

Darperir cysylltedd band eang i ysgolion a gynhelir yng Nghymru ar draws Rhwydwaith Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA). Cafodd PSBA ei lansio yn 2007 ac mae’n cysylltu sefydliadau’r sector cyhoeddus yn y wlad i Rwydwaith Ardal Eang (WAN) Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) diogel preifat. Caiff PSBA ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i ddarparu gan BT.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Yn 2013, gosododd Llywodraeth Cymru dargedau y byddai gan ysgolion cynradd, canol ac arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion gysylltedd o 100Mbps ac y byddai gan ysgolion uwchradd gysylltedd o 1Gbps erbyn 2020. Yn dilyn hynny, adolygodd Llywodraeth Cymru  dargedau 2020 a’u disodli â chanllawiau ar gyfer 2018. Dywedodd Llywodraeth Cymru fod adborth gan awdurdodau lleol wedi awgrymu bod y targedau’n rhy anhyblyg ac efallai na fyddai uwchraddio pellach yn arwain at lawer o fudd yn enwedig lle mae niferoedd disgyblion yn isel. Felly disodlwyd targedau 2020 gan ganllawiau a oedd yn anelu at ddarparu mwy o reolaeth leol a chaniatáu i wybodaeth leol am ysgolion ddylanwadu ar benderfyniadau ynghylch lled band cynyddol.

Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Safonau Digidol Addysg. Yn y safonau hynny, dyweder mewn perthynas â chysylltedd:

Mae gofynion ysgolion yn seiliedig ar gyflawni'r cwricwlwm, ynghyd ag anghenion gweinyddol a gweithredol yr ysgol, y mae gan bob un ohonynt batrymau defnydd gwahanol iawn.

Mae safon A3 yn nodi:

Ysgolion i fod â gwasanaeth band eang sy’n darparu lled band digonol i ddiwallu eu hanghenion […] Dylai’r gwasanaeth sydd ar gael mewn ysgolion weddu i’w maint (o safbwynt defnyddwyr o bob math – ymarferwyr, staff swyddfa a dysgwyr), ac anghenion cyflenwi’r ysgol, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Mae ymateb Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i’r ddeiseb yn dweud bod holl ysgolion a gynhelir yng Nghymru wedi gallu cael mynediad at gyflymder band eang cyflym iawn ers 2019. Mae wedi darparu pwynt cyswllt ac wedi cynnig i’w swyddogion ymchwilio i unrhyw achosion lle nad yw hyn yn wir.

 

.Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.